Ein cyf MA-P-VG-6386-16

 

Dr Dai Lloyd

Cadeirydd

Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd

CF99 1NA

 

12 Hydref 2016

 

 

Annwyl Gadeirydd,

 

Diolch am eich llythyr dyddiedig 21 Medi ar ran y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, oedd yn cynnwys nifer o gwestiynau oddi wrth y Pwyllgor na chawsoch gyfle i’w gofyn yn y cyfarfod ar 15 Medi 2016.

 

Byddwn yn ateb pob cwestiwn yn y drefn y’u gofynasoch fel a ganlyn:

 

Yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol  

 

C1.”Yn eich papur, rydych yn dweud bod trafodaethau wedi'u cynnal i gael consensws trawsbleidiol ar fanylion yr adolygiad, gan gynnwys ei gylch gwaith, ei aelodaeth a'i amserlen. Allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y trafodaethau hyn, gan gynnwys pa bryd y disgwyliwch allu sefydlu'r adolygiad yn ffurfiol a'r amserlenni ar ei gyfer?”

 

Rydym wedi gallu dod i gytundeb bras ar yr elfennau hyn o’r adolygiad. Rwy’n bwriadu gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar ôl inni roi gwedd derfynol ar gytundeb.  

 

Disgwyliwn y bydd yr adolygiad yn dechrau cyn y Nadolig, y cymerir oddeutu blwyddyn i gyflawni ei waith ac y rhoddir gwedd derfynol ar ei adroddiad cyn gynted ag sy’n bosibl wedi hynny. Bydd hyn yn rhoi amser i’r argymhellion gael eu rhoi ar waith yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

 

 

C2. “Yn gysylltiedig â hyn mae mater strategaeth y GIG ar gyfer y dyfodol. Nodwn y datganiadau yn eich papur am yr angen i alinio'r strategaeth â chanlyniad yr Adolygiad, a'r ansicrwydd ynghylch Datganiad Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU. Allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am eich ystyriaethau o ran yr amserlen ar gyfer cyhoeddi strategaeth y GIG ar gyfer y dyfodol, neu awgrym o'r adeg pan fyddwch mewn sefyllfa i wneud hynny?”

 

O ran amseriad strategaeth y GIG ar gyfer y dyfodol, mae’n amlwg y byddwn eisiau ei datblygu trwy gymryd i ystyriaeth y prif ganfyddiadau yn yr Adolygiad Seneddol. Felly ni roddir gwedd derfynol ar y strategaeth cyn y bydd yr adolygiad wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd.

Fodd bynnag, rhaid peidio â gadael i’r datblygiadau hyn, er mor bwysig ydynt, achosi oedi i welliannau yn y GIG ar sail y cyfeiriad a nodwyd yn Law yn Llaw at Iechyd a thrwy roi egwyddorion gofal iechyd darbodus ar waith. Bydd y rhain yn parhau i fod yn ganolog i’r strategaeth ar gyfer y dyfodol. Rwyf yn canolbwyntio ar eu rhoi ar waith a’u cyflawni’n barhaus.

 

 

Ad-drefnu ysbytai

 

C3. “Mae Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ar gyfer 2016-17 yn ailadrodd yr angen i newid pwyslais y gofal o ysbytai i leoliadau cymunedol ac yn pwysleisio'r angen am wasanaethau diogel a chynaliadwy. Roedd y rhain yn egwyddorion allweddol a oedd wrth wraidd llawer o'r gwaith a gynlluniwyd i ad-drefnu ysbytai a gwasanaethau ledled Cymru. A ydych yn credu y bydd maint a chyflymder y newidiadau yn cyflawni’r trawsnewid sydd ei angen ar y GIG yng Nghymru o ran y gwasanaeth, a beth yw’r goblygiadau o ran mynediad cleifion at wasanaethau?”

 

Gall newidiadau i wasanaethau ddigwydd ar nifer o lefelau sefydliadol a chynnwys ymyriadau ar wahanol lefelau graddfa, cwmpas, cymhlethdod ac effaith.  

 

Mae hyn yn amrywio o ad-drefnu gwasanaethau ar raddfa fawr; trosglwyddo agweddau ar y ddarpariaeth gwasanaethau o leoliadau eilaidd neu ysbytai i leoliadau sylfaenol neu gymunedol; a gwell ffactorau galluogi a mecanweithiau darparu.

 

Mae llawer wedi’i wneud eisoes gan GIG Cymru ac mae newidiadau gwirioneddol wedi cael eu gwneud sydd wedi arwain at wasanaethau gwell. Er enghraifft, mae’r newidiadau i wasanaethau menywod a phlant yn y Gorllewin wedi cael eu hadolygu gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, sydd wedi cadarnhau bod y gwasanaethau newydd wedi arwain at well cydymffurfiaeth â safonau clinigol a gwell canlyniadau i gleifion. 

 

Yn ddiweddar, fel Ysgrifennydd y Cabinet agorais y datblygiad Blaen Tŷ newydd yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli. Mae hwn wedi gwahanu’r Uned Asesiadau Meddygol Acíwt, yr Uned Mân Anafiadau a’r Gwasanaeth Ymarferwyr Cyffredinol y Tu Allan i Oriau, gan foderneiddio’r ffordd y caiff cleifion â salwch meddygol acíwt neu fân anafiadau eu hasesu a’u trin.

 

Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £40 miliwn i gynorthwyo â gweithredu’r Cynllun Gofal Sylfaenol sy’n cynnig camau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cynllunio gofal yn lleol, gwella mynediad ac ansawdd, a mynediad teg. Hefyd, mae’r cynlluniau cyflawni ar gyfer cyflyrau difrifol yn nodi amrywiaeth o raglenni a mentrau, gan gynnwys cyfleoedd i newid gwasanaethau, sy’n cynorthwyo â symud agweddau ar y ddarpariaeth gwasanaethau o leoliadau eilaidd i leoliadau sylfaenol.

 

Fodd bynnag, gwyddom fod angen gwneud llawer mwy. Rydym yn disgwyl y darperir gwasanaethau o ansawdd da i gleifion, a hynny mor agos i’w cartrefi ag sy’n bosibl. Rydym wedi dweud yn glir iawn bod angen i’r gwaith darparu fynd rhagddo’n gyflymach.

 

C4. “Deallwn fod y byrddau iechyd – yn enwedig yn ne Cymru – wedi bod yn gweithio ar gynigion sylweddol posibl ar gyfer newid mewn gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau trawma mawr a rhai gwasanaethau llawfeddygol. Fodd bynnag, nid oes llawer o wybodaeth ar gael. Beth yw maint ac amseriad y gwaith pellach sydd ar y gweill ar ail-lunio arfaethedig y gwasanaeth a pha drefniadau a wnaed i gyfleu'r wybodaeth hon i'r cyhoedd?”

 

Mae Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru wedi cael ei sefydlu gan fyrddau iechyd i gyflawni amrywiaeth o waith ledled GIG Cymru ar ran y Prif Weithredwyr. Mae’r gydweithrediaeth yn bwrw ymlaen â nifer o raglenni, gan gynnwys opsiynau ar gyfer datblygu rhwydwaith trawma mawr. Mae’n cael ei arwain gan glinigwyr er mwyn ystyried materion penodol megis goblygiadau modelu unrhyw newidiadau, ac mae mewn cyfnod cynnar yn y broses. Wrth i’r gwaith hwn ddatblygu, rydym yn disgwyl y bydd rhaglen helaeth o ymgysylltu â chymunedau lleol a chynghorau iechyd cymuned.

 

Talu am ofal

 

C5. A allwch egluro a fydd y terfyn cyfalaf newydd sydd i'w gymhwyso i ofal preswyl hefyd yn berthnasol i gostau gofal dibreswyl, ac a ydych yn bwriadu gwneud unrhyw ddiwygiadau pellach i’r trefniadau codi tâl am ofal cymdeithasol?

 

Er bod awdurdodau lleol yn defnyddio’r terfyn cyfalaf wrth arfer eu disgresiwn i godi tâl am ofal dibreswyl, mae’n gweithio mewn ffordd wahanol i’r un wrth godi tâl am ofal preswyl. Mae hyn oherwydd, trwy ddiffiniad, caiff gwerth eiddo mae unigolyn yn berchen arno ei adael allan o’r cyfrifiad o’i gyfalaf o gofio y bydd yn byw ynddo. O ganlyniad bydd lefelau cyfalaf wrth godi tâl am ofal dibreswyl yn is na’r rhai wrth godi tâl am ofal preswyl. Nid oedd yn fwriad gennym, felly, cymhwyso ein cynnydd arfaethedig i’r terfyn cyfalaf i godi tâl am ofal dibreswyl.

 

Nid ydym yn bwriadu gweithredu unrhyw ddiwygiadau eraill i’r trefniadau ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol. Yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni, cyflwynwyd fframwaith codi tâl ac asesiadau ariannol newydd sydd ond megis dechrau ymwreiddio. Cyflwynodd honno set gyson o drefniadau asesiadau ariannol a chodi tâl lle mae awdurdodau lleol yn defnyddio eu disgresiwn i godi tâl am ofal a chymorth cymdeithasol.

 

Wedi dweud hynny, o fis Ebrill nesaf ymlaen, rydym yn cyflwyno diystyru swm llawn y Pensiwn Anabledd Rhyfel mewn asesiadau ariannol ar gyfer pob math o dâl a godir. Ar hyn o bryd, £25 yr wythnos yw’r swm lleiaf a ddiystyrir. Bydd diystyru’r swm llawn yn sicrhau y bydd cyn-aelodau o’r lluoedd arfog sy’n cael y pensiwn hwn yn gallu cadw ei werth llawn i helpu i dalu costau eu bywyd beunyddiol heb fod ei angen i dalu cost unrhyw ofal a chymorth mae eu hangen arnynt.

 

 

C6. “Pa amcangyfrif ydych wedi'i wneud o gost y terfyn cyfalaf newydd?”

 

Er mwyn canfod cost cyflawni ein hymrwymiadau i gynyddu’r terfyn cyfalaf i £50,000 ac i gyflwyno diystyru swm llawn y Pensiwn Anabledd Rhyfel mewn asesiadau ariannol, rydym wedi comisiynu ymchwil annibynnol gan ymgynghoriaeth economaidd a pholisi blaenllaw. Mae ein swyddogion newydd gael adroddiad llawn ar y costau hynny, ac rydym ar fin ei ystyried.

 

 

Materion ariannol y GIG

 

C7. “Beth yw eich barn ar effaith Deddf Cyllid y GIG 2014, o ran sicrhau gwaith cynllunio a chydbwysedd ariannol effeithiol, a sut y gellir ymdrin ag unrhyw heriau a phwysau ariannol?”

 

Nod Deddf 2014 oedd galluogi sefydliadau’r GIG yng Nghymru i gynllunio ymlaen yn well, gan gymryd i ystyriaeth anghenion eu poblogaethau lleol a’r adnoddau ariannol a’r adnoddau o ran gwasanaethau a’r gweithlu y mae eu hangen i ddiwallu’r anghenion hynny.

 

Mewn cyfnod o gyni cyllidol parhaus mae’n anochel bod her i GIG Cymru, a’r GIG yn y Deyrnas Unedig, o bwysau demograffig ac ariannol ac o ran gwasanaethau. Mae hyn yn pwysleisio’r angen am gynllunio effeithiol. Comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad gan Ymddiriedolaeth Nuffield “Degawd o Galedi yng Nghymru?” ac ers 2014, trwy gyllidebau dilynol Llywodraeth Cymru, mae wedi mwy na mynd i’r afael â’r bwlch cyllidol asesedig.

 

Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo GIG Cymru trwy ddyraniadau ychwanegol, mae hyn yn dal i’w gwneud yn ofynnol i GIG Cymru barhau i sicrhau arbedion effeithlonrwydd a gwell cynhyrchiant yn y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru, trwy Fframwaith Cynllunio’r GIG, yn disgwyl i GIG Cymru fynd i’r afael â’r heriau demograffig a’r heriau o ran gwasanaethau trwy newidiadau i wasanaethau, modelau gwasanaeth gwahanol a symud gwasanaethau i ofal sylfaenol a chymunedol, trwy gynlluniau integredig a ddatblygir gan ddilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae’r newidiadau hyn a ddisgwylir i wasanaethau a modelau gwasanaeth yn cydnabod nad oes modd sefyll yn yr unfan ac na fydd cynlluniau effeithlonrwydd traddodiadol, a ddisgrifir yn aml fel effeithlonrwydd technegol wedi’u seilio ar leihau costau mewnbynnau, yn ddigonol. Felly bydd angen i gynlluniau integredig gynnwys effeithlonrwydd dyrannol hefyd, gan gynnwys gwerth dyrannol, gan ganolbwyntio ar effeithiolrwydd triniaeth sy’n cynhyrchu’r allbynnau iawn a’r canlyniadau iawn i gleifion.

 

Dyma drydedd flwyddyn y trefniadau cynllunio yn dilyn cyflwyno Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r trefniadau cynllunio dros y 12 mis diwethaf i adlewyrchu’r gwersi a ddysgwyd o ddwy flynedd gyntaf y drefn gynllunio newydd hon. Ni chaiff cynllun ei gymeradwyo ond ar ôl craffu trylwyr a chymeradwyo ar lefel bwrdd a phan fo Llywodraeth Cymru yn fodlon ei fod yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Fframwaith Cynllunio.

 

Nid yw cymeradwyo cynllun yn diddymu atebolrwydd bwrdd ymddiriedolaeth GIG neu fwrdd iechyd am ddarparu gwasanaethau nac ychwaith yn rhagfarnu canlyniad unrhyw broses briodol sy’n ofynnol i roi’r cynllun ar waith. Rhaid i unrhyw waith ad-drefnu gwasanaethau mae ei angen gael ei gyflawni’n unol â deddfwriaeth a’n canllawiau presennol, er enghraifft, ac ymdrinnir ag unrhyw gais am fuddsoddiad cyfalaf yn unol â’r prosesau arferol ar gyfer cymeradwyo achosion busnes.

 

Yn dilyn proses drylwyr o graffu ar gynlluniau tymor canolig integredig 2016-19, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru rai’r chwe sefydliad canlynol – Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chwm Taf, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Rydym yn gosod termau atebolrwydd heriol er mwyn sicrhau parhad egni a gwelliant buan trwy’r gwasanaeth iechyd, ac osgoi hunanfoddhad mewn unrhyw sefydliadau. Caiff perfformiad y sefydliadau hyn ei adolygu’n rheolaidd trwy’r flwyddyn.

 

Mae’r broses drylwyr o graffu ar gynlluniau tymor canolig integredig 2016-19 wedi arwain at newid statws cynlluniau cymeradwy. Symudodd un sefydliad, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, o statws cynllun heb ei gymeradwyo yn 2015-18 i statws cynllun cymeradwy yn 2016-19, a symudodd dau sefydliad, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, i’r cyfeiriad arall. Dyma’r flwyddyn gyntaf i gynllun Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gael ei gymeradwyo, ac mae hyn yn adlewyrchu’r gwelliannau a gafwyd yn yr ymddiriedolaeth hon, gyda chymorth gan y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Aethpwyd â’r pedwar sefydliad oedd heb gynlluniau cymeradwy trwy’r trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd. Mae un sefydliad yn destun mesurau arbennig ac mae tri ar lefel ymyrraeth dargededig.

 

 

C8. “Yn eich barn chi, pa mor effeithiol fydd y Ddeddf a’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig o ran sicrhau newid i wasanaethau?”

 

Cynllunio, yn hytrach na’r farchnad, yw sail y system gofal iechyd yng Nghymru o hyd, a dim ond trydedd flwyddyn proses ffurfiol cynlluniau tymor canolig integredig yw hon. Mae cynlluniau tymor canolig integredig tair blynedd yn ddatganiadau hanfodol o fwriadau sefydliadau’r GIG o ran strategaeth a darpariaeth. Mae’n ofynnol i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau GIG a’u partneriaid gydweithio i sicrhau a darparu gwasanaethau i’w poblogaethau, gan gydweithredu â phartneriaid ar wahanol lefelau i asesu anghenion y boblogaeth ac i gynllunio a darparu gwasanaethau, trwy’r bwrdd iechyd lleol, byrddau gwasanaethau lleol a’r 64 o glystyrau gofal sylfaenol. Mae’r lefel hon o ymgysylltu a chynllunio’n dangos ymrwymiad clir gan wasanaethau cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau i ddinasyddion yng Nghymru.

 

Disgwylir i sefydliadau’r GIG feddu ar olwg tymor hir a bod yn glir ynghylch y camau y byddant yn eu cymryd yn y dyfodol agos i ddarparu gwasanaethau hygyrch a chynaliadwy o ansawdd da yng nghyd-destun polisïau cenedlaethol. Mae cynlluniau’n disgrifio sut y bydd gwasanaethau’n datblygu er mwyn gwella ansawdd, canlyniadau a phrofiad y claf yn barhaus. Mae newidiadau’n amlwg ym mhob rhan o waith y GIG wrth i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd yn ein system gofal iechyd integredig. Mae cynlluniau tymor canolig integredig yn darparu fframwaith i ddisgrifio’r camau amrywiol y bydd sefydliadau’r GIG yn eu cymryd, gan gynnwys newidiadau i wasanaethau. Mae’r cynlluniau a nodir gan y GIG yn cael eu monitro’n rheolaidd trwy drefniadau adrodd rheolaidd a thrafodaethau mewn cyfarfodydd perfformiad ac atebolrwydd gyda’n swyddogion.

 

Mae disgyblaeth cynllunio tymor canolig yn aeddfedu, ac rydym yn hyderus y bydd cynlluniau tymor canolig integredig yn y dyfodol yn dangos yn gliriach byth sut y bydd y GIG yn newid a datblygu er mwyn cyfrannu’n llawn ar draws yr holl flaenoriaethau a bennir gan y Llywodraeth.

 

Gofynnodd Rhun ap Iorwerth AC pa asesiad a wnaed o’r arbedion posib i’r GIG o weld lefelau uwch o weithgarwch corfforol a chwaraeon. Roedd ein hymateb yn cynnwys yr achos economaidd yn gyffredinol dros ddulliau gweithredu ataliol, ac fe gyfeiriwyd at y gwaith diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y testun hwn. Roeddem yn meddwl efallai yr hoffech weld yr adroddiad a’r dogfennau perthnasol. 

 

Mae’r adroddiad yn cynnig crynodeb o dystiolaeth ymchwil a barn arbenigol i gefnogi dulliau gweithredu ar gyfer atal afiechyd er mwyn sicrhau economi gynaliadwy, cymdeithas ffyniannus a’r iechyd a’r llesiant gorau posib i bobl Cymru. Mae’n dadlau bod modd i nifer o ddulliau gweithredu ataliol achub bywydau, arbed arian a gwella lles meddyliol, corfforol a chymdeithasol pobl. Yn ogystal â’r effaith ar wasanaethau iechyd, mae hefyd yn mesur y manteision ar draws cymunedau, y gymdeithas a’r economi. 

 

Mae’r ddolen isod yn arwain at y crynodeb gweithredol; y dystiolaeth ategol; a chyfres o ffeithluniau sy’n canolbwyntio ar y prif heriau iechyd; http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/87127

 

Gobeithio bydd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi. 

 

 

Yn gywir,

 

 

Vaughan Gething AC/AM

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cabinet Secretary for Health, Well-being and Sport

 

 

 

Rebecca Evans AC/AM

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Minister for Social Services and Public Health